Pontio

Proms Cynradd – Hydref 2012

Cafwyd diwrnod ardderchog yn Ysgol Gyfun Ystalyfera ar ddechrau Hydref pan ddaeth dros 200 o ddisgyblion cynradd ac uwchradd at ei gilydd i baratoi perfformiad yn ein Proms Cerddorfaol blynyddol . Roedd pawb wedi mwynhau dysgu darnau fel “Ymdeithan Mickey Mouse” a “The Great Escape” ond y ffefryn oedd clasur John Lennon “Imagine”. Swynwyd y gynulleifa o rhieni a ffrindau a oedd wedi ymgasglu yn y neuadd chwaraeon gan safon uchel y perfformiadau ac mae pawb yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf yn barod!