Amcanion Canolfan Gwenallt

Sefydlwyd Canolfan Gwenallt ym 1989 pan gyfunodd disgyblion o ddwy ysgol gyfun ddwyieithog Gorllewin Morgannwg sef Ysgol Gyfun Gŵyr ac Ysgol Gyfun Ystalyfera i ffurfio uned newydd chweched dosbarth.
Dyma’r unig sefydliad addysgiadol o fewn i Sir Castell Nedd, Port Talbot sy’n cynnig darpariaeth eang ar gyfer addysg ddwyieithog, lle caiff y myfyrwyr gyfle i astudio a mwynhau eu hunain mewn awyrgylch gwbl Gymreig.  Mae’r holl ddarpariaeth addysgol ar yr un campws.

Mae amcanion Canolfan Gwenallt yn cydredeg ag amcanion yr ysgol gyfan sef:-

  • Galluogi pob myfyriwr/wraig i gyflawni ei gwir botensial yn academaidd, yn ymarferol ac yn gymdeithasol, ac i gynorthwyo disgyblion i ddatblygu meddyliau bywiog ac ymholgar.
  • Dysgu pob myfyriwr/wraig i gyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg.
  • Meithrin balchder yn yr iaith Gymraeg a’i diwylliant, tra hefyd yn gwerthfawrogi diwylliannau gwledydd eraill a meithrin parch at leiafrifoedd o fewn eu cymunedau.
  • Creu o fewn yr ysgol gymuned sy’n sensitif i werthoedd ysbrydol, corfforol, moesol ac ymarferol.
  • Sicrhau cyfle digonol o fewn cymuned yr ysgol i ddatblygu hunanfynegiant, gwasanaeth, ffyddlondeb, arweiniad a hunan hyder, ac i annog hunan-barch a pharch tuag at eraill.
  • Paratoi pob myfyriwr/wraig am fywyd llawn a digonol ar ôl gadael yr ysgol, ac i wasanaethu eu cymunedau yn oedolion cyfrifol, dwyieithog.

Pwyslais:

Cymraeg yw iaith swyddogol yr ysgol a Chanolfan Gwenallt, a chonglfaen yr athroniaeth gyffredinol sy’n sail yr amcanion uchod.

"Roedd bod yn rhan o’r chweched dosbarth yn brofiad gwych. Mae’n gymysgedd o ddysgu sgiliau newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol arbennig, ac mae yna berthynas hawdd rhwng y disgyblion a’r athrawon."

Ceri Jones