'Mae’r ysgol yn cynnig ystod ragorol o gyfleoedd allgyrsiol ac amrywiaeth o weithgareddau yn yr ysgol a thu allan sy’n cyfrannu’n sylweddol at ddatblygiad personol a chymdeithasol y disgyblion a’r myfyrwyr. (Adroddiad Estyn 2007)’.
Mae sicrhau cyfleoedd allgyrsiol yn greiddiol i ethos Ysgol Gyfun Ystalyfera a thrwy ein rhaglen helaeth rydym yn llwyddo i ddarparu:
(i) Profiadau diwylliannol trwy amrywiaeth o gystadlaethau a pherfformiadau. Mae’r ysgol yn cefnogi eisteddfodau a gwyliau lleol a chenedlaethol ac mae’r disgyblion a’r myfyrwyr yn cael profiadau helaeth, cofiadwy a Chymreig drwy’r gweithgareddau hyn;
(ii) amrediad eang o glybiau, ymarferion a thimau chwaraeon, gyda llawer o ddisgyblion yr ysgol yn cynrychioli’r sir a’u gwlad;
(iii) ymweliadau a theithiau niferus, lleol a thramor, sy’n cyfoethogi’r cwricwlwm a phrofiadau disgyblion;
(iv) amrywiaeth eang iawn o glybiau a gweithgareddau i hybu dysgu, addysgu a lles disgyblion, y tu allan i oriau arferol ysgol.
Mae'r ysgol yn cefnogi holl weithgareddau Urdd Gobaith Cymru, ac anogir disgyblion i ymaelodi â’r mudiad hwn.
Rhoddir cyfle i ddisgyblion gymryd rhan mewn cynhyrchiadau ysgol gyfan, dramâu Cymraeg a Saesneg adrannol, gwasanaethau ysgol a chymunedol, corau, cerddorfa a grwpiau offerynnol.
Manteisir ar gystadleuthau megis y Rotari, CEWC, Oxford Speaking er mwyn ymestyn disgyblion galluog a thalentog a darparu llwyfan ar gyfer ein siaradwyr cyhoeddus brwd.
Mae’r Adran Addysg Gorfforol yn cynnal nifer o glybiau yn ystod yr awr ginio neu ar ôl ysgol: Criced, Rygbi, Pêl-droed, Pêl-rwyd, Hoci, Pêl Fâs, Athletau, Badminton, Nofio, Gymnasteg, Aml-Gampfa. Cynhelir gemau cystadleuol yn ystod oriau ysgol, ac ar ôl ysgol. Mae timau ysgol o bob oedran yn cystadlu yn gyson yn erbyn timau o ysgolion eraill a cheir cyfle i ddisgyblion gynrychioli rhanbarth Nedd Port Talbot, Gorellwin Morgannwg, De Cymru, Cymru a Phrydain Fawr mewn amryw o weithgareddau.
Arweinir y clwb gan ddisgyblion blwyddyn 12 a darperir cyfleoedd i ddigyblion Iau i ymuno mewn clybiau amrywiol yn ôl dymuniad y disgyblion e.e. clwb coginio, clwb gwyddbwyll, clwb ffasiwn ac ati.
Anogir disgyblion o flwyddyn 10 i flwyddyn 13 i ymgymryd â chymhwyster Dug Caeredin a rhoddir pob cefnogaeth iddynt gan hyfforddwyr arbenigol.
Clwb Amnest Rhyngwladol, Clwb Darllen, Clwb Llawysgrifen, Clwb Ffrangeg, Clwb Gwyddbwyll, Clwb Celf amser cinio ac ar ôl ysgol, Pwyllgor 6ed, Pwyllgor Dyngarol,Clwb Rhifedd.
Trefnir gwersi offerynnol dan arweiniad athrawon peripatetig ar gyfer: telyn, offerynnau llinynnol, offerynnau chwythbren, pres, llais a tharo. Mae disgyblion sy’n derbyn gwersi offerynnol yn sefyll arholiadau y Bwrdd Arholi Brenhinol. Disgwylir hefyd i ddisgyblion sydd yn derbyn gwersi offerynnol ymaelodi â cherddorfa’r ysgol ac yna yng ngherddorfa cylch Gorllewin Morgannwg.
Mae'r tîm 560 o dan arolygaeth Carwyn Evans yn cyd-weithio'n agos gyda'r Adran Addysg Gorfforol ac yn ehangu ar y cyfleoedd sydd ar gael i ddisgyblio i ymarfer, cadw'n heini a chystadlu mewn chwaraeon. Y gweithagreddau sy'n cael i gnnig yw pel droed, pêl rwyd, gymnasteg, dringo, pêl fasged, rygbi, jiwdo, zumba, 'street dance' ayb.
Trwy weithgareddau amrywiol yn ystod y flwyddyn casglwyd dros £10,000 tuag at achosion dyngarol lleol a chenedlaethol mewn gweithgareddau a drefnwyd ac a gefnogwyd gan staff a disgyblion yr ysgol. Cyflwynwyd sieciau i’r canlynol: