Amcanion yr Ysgol

  • Galluogi pob disgybl i gyflawni ei wir botential yn academaidd, yn ymarefol ac yn gymdeithasol, ac i gynorthwyo disgyblion i ddatblygu meddyliau bywiog ac ymholgar.

 

  • Galluogi pob plentyn i gyfathrebu'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a'r Saesneg.

 

  • Meithrin balchder yn yr iaith Gymraeg a'i diwylliant, tra hefyd yn gwerthfawrogi diwylliannau gwledydd eraill a meithrin parch at leiafrifoedd o fewn eu cymunedau.

 

  • Creu o fewn yr ysgol gymuned sy'n sensitif  i werthoedd ysbrydol, corfforol, moesol a dyngarol.

 

  • Sicrhau cyfle digonol o fewn cymuned yr ysgol i ddatblygu hunan-fynegiant, gwasanaeth, fyddlondeb, arweiniad a hunan hyder, ac i annog hunan-barch a pharch tuag at eraill.

 

  • Paratoi'r disgyblion ar gyfer bywydau llawn a digonol ar ôl gadael yr ysgol, ac i wasanaethu eu cymunedau yn oedolion cyfrifol, dwyieithog.

 

Nod a Chenhadaeth yr Ysgol

 

Ymdrecha'r ysgol i ddarparu, drwy'r iaith Gymraeg, yr ystod ehangaf bosibl o brofiadau addysgol cyfoethog er mwyn paratoi ieuenctid ar gyfer eu dyfodol.  Mae pob disgybl yn unigolyn cydradd a chyfwerth o fewn yr ysgol