Pam fod yr iaith Gymraeg yn bwysig? Bydd ‘na resymau emosiynol ac ymarferol am ddefnyddio’r iaith. Yn ôl y gwybodusion, yr iaith Gymraeg yw’r hynaf yn Ewrop; iaith sy’n parhau i oroesi er y nifer o fygythiadau dros y ganrif neu fwy ddiwethaf. Heb yr iaith Gymraeg, ni fydd cynghanedd yn bodoli; heb gynghanedd byddai’r Eisteddfodau yn ddibwys. Yng ngeiriau’r dywediad “Gwlad heb iaith, Gwlad heb Genedl”.
Nid yw pawb yn gytun fod rhesymau emosiynol yn ddigon i warantu dysgu’r iaith, neu sicrhau ei llwyddiant i’r to iau. Mae yna ddigon o fanteision economaidd a phroffesiynol i ddysgu ac i siarad yr iaith. Mae ymchwil yn dangos fod y sawl sydd yn rhugl yn yr iaith yn fwy tebyg o fedru ennill swydd, a bod y swyddi hynny yn fwy tebygol o dalu’n dda!
Wrth i’r Llywodraeth benodi Comisiynydd Iaith yn y dyfodol fe fydd pwysigrwydd y defnydd o’r Gymraeg yn cynyddu.
Yma yn Ysgol Gyfun Ystalyfera rydym wedi penodi dau aelod o’r staff yn bencampwyr iaith, er mwyn sicrhau fod y disgyblion yn elwa o’u gallu yn y Gymraeg. Ymysg eu dyletswyddau, mae’r ddauwedi dechrau cystadleuaeth Cymreictod i Flwyddyn 7 – gyda’r bwriad o’u ehangu o fewn cyfnod allweddol tri yn y dyfodol agos. Mae gwobr o ddiwrnod mas i Abertawe yn yr Haf i’r dosbarth buddugol.
Yn ogystal a hyn mae sawl “Clwb CEI” wedi eu ffurfio. Prosiect yw CEI (Cadwch Eich Iaith), sydd wedi tyfu o dan nawdd Bwrdd yr Iaith. Ymysg y prosiectau mae Radio Gwifren, sef y radio ysgol Gymraeg gyntaf i’w sefydlu yn y Sir, ac mae’r radio wedi mynd o nerth i nerth. Gellir clywed y cyflwynwyr ifanc yn darlledu bob amser cinio yn y Ffreutur a’r Neuadd Fawr. Hefyd mae gwefan www.igamogam.co.cc wedi ei sefydlu, gwefan sy’n cyflwyno newyddion a storïau am yr ysgol. Mantais fawr y wefan yma yw’r gallu i bobl ifanc Ysgol Gyfun Ystalyfera i gyfrannu iddi. Yn gyson, mae canlyniadau Cymreictod Blwyddyn 7 yn cael eu huwch-lwytho i’r wefan.
Ymysg y Clybiau CEI eleni mae: Clwb Cemeg, Clwb Coginio, Clwb Celf a Ffotograffiaeth, Clwb Ffasiwn a Chlwb Menter. Mae’r clybiau yma’n cydredeg a chlybiau mwy traddodiadol megis clybiau rygbi a phêl-droed neu glybiau hoci a phêl-rwyd. Yn ystod y flwyddyn fe fydd lluniau o’r gwahanol weithgareddau yn cael eu llwytho i wefan Igamogam.
Mae datblygiad y clybiau gwahanol yma’n bwysig iawn, er mwyn meithrin sgiliau hollbwysig ymysg y disgyblion iau, megis cyfathrebu a gwaith grŵp, ond yn ogystal a hyn, mae’n cynnig rôl arweinyddiaeth i ddisgyblion Canolfan Gwenallt, gan mai nhw sydd yn bennaf gyfrifol am arwain y clybiau.