Ysgolion Iach

Mae Ysgol Gyfun Ystalyfera yn ran o rwydwaith Ysgolion Iach Castell Nedd Port Talbot ac ar hyn o bryd yn gweithio tuag at ein pedwaredd ddeilen.
Mae’r Cynllun Ysgolion Iach yn hyrwyddo pob maes o fewn yr ysgol sy’n gwella iechyd corfforol ac emosiynol y disgyblion a’r staff, ac yn treiddio trwy bywyd pob dydd yr ysgol.


Mae’r cynllun wedi ei rannu mewn i saith ardal:
1. Bwyd a Ffitrwydd
2. Iechyd a Lles Meddyliol ac Emosiynol
3. Datblygu Personol a Chydberthynas
4. Defnyddio a Chamddefnyddio Sylweddau
5. Yr Amgylchedd
6. Diogelwch
7. Hylendid

 

Yn ystod y cyfnod presennol, rydym yn canolbwyntio ar feysydd 1 (Bwyd a Ffitrwydd), 2 (Iechyd a Lles Meddyliol ac Emosiynol) a 6 (Safety).

Byddwn yn casglu tystiolaeth, gyda chymorth y Cyngor Ysgol a disgyblion a staff eraill i ddangos ein bod yn Ysgol Iach.