Yr Ysgol

Rhennir yr ysgol yn Flynyddoedd.  Ceir Cydlynydd Dysgu i Flwyddyn 7 (sydd hefyd yn gyfrifol am gyswllt â'r ysgolion cynradd).  Cydlynwyr Dysgu i Flynyddoedd 8, 9, 10 ac 11 a Cydlynydd Dysgu i Ganolfan Gwenallt, sef Blynyddoedd 12 a 13.  Gweithia'r Cydlynwyr hyn yn agos gyda'r Pennaeth a'r Tîm rheolaeth i sicrhau dilyniant a chysondeb wrth weithredu trefniadau a pholisïau'r ysgol a gofal cyffredinol dros holl agweddau bywyd ysgol y disgyblion.

 

Dysgir disgyblion Blwyddyn 7 o fewn dosbarthiadau cymysg eu gallu, ar wahan i ddisgyblion sydd ag arnynt anghenion Addysg Ychwanegol.  O Flwyddyn 8 ymlaen, gosodi'r disgyblion mewn setiau yn ôl eu gallu ar gyfer rhai pynciau, tra'n aros yn eu dosbarthiadau arferol ar gyfer pynciau eraill.

 

Asesir gwaith y disgyblion yn rheolaidd a chynhelir arholiadau ffurfiol i bob Blwyddyn.  Cofrestrir disgyblion mewn grwpiau cymysg eu gallu, a'r grwpiau cymysg hynny yw sail cyfnodau Tiwtorial, Addysg Bersonol a Chydeithasol a rhai gwersi eraill ar y cwricwlwm.

 

Erbyn Blwyddyn 10 bydd disgyblion wedi dewis pynciau arholiadau allanaol a fydd yn sail i'w hastudiaethau am ddwy flynedd.

 

Y Llysoedd

 

Mae tri llys yn yr ysgol sef:

  • Gwenllian
  • Hywel
  • Llywelyn

 

Y Llysoedd yw sail y dosbarthiadau cofrestru, Addysg Bersonol a Chymdeithasol, Gwasanaeth Llys ac agweddau cystadleuol megis eisteddfod, mabolgampau a chwaraeon.  Mae'r Llysoedd hefyd yn sail gweithgareddau hybu Cymreictod.

 

Arweinir y Llysoedd gan fyfyrwyr Blwyddyn 12.

 

Manylion Tymorau 2012 - 2013

      Hydref 2012
03/09/12 - 26/10/12
05/11/12 - 21/12/12

     Gwanwyn 2013
07/01/13 - 08/02/13
18/02/13 - 28/03/13

        Haf 2013
15/04/13 - 24/05/13
03/06/13 - 23/07/13

 

Diwrnodau HMS 2012 - 2013

  • 03/09/2012

Gwyl y Banc

  • Blwyddyn Newydd - 01/01/2013
  • 29/03/2013
  • 01/04/2013
  • 06/05/2013
  • 27/05/2013
  • 26/08/2013