Hydref 2011
05/09/11 - 22/10/11
31/10/11 - 23/12/11
Gwanwyn 2012
09/01/12 - 11/02/12
20/02/12 - 30/03/12
Haf 2012
16/04/12 - 01/06/12
11/06/12 - 20/07/12
Croeso cynnes i wefan Ysgol Gyfun Gymraeg Ystalyfera! Bydd y wefan hon yn gyfrwng cyfathrebu pwysig, a fydd yn datblygu ac yn esblygu’n gyson, ac rydym yn eich annog i ymweld â’r wefan yn rheolaidd er mwyn cael cipolwg ar fywyd a bwrlwm ysgol brysur.
Mae Ysgol Gyfun Ystalyfera yn falch o’i thraddodiad, sy’n ymestyn nôl dros ddeugain mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw aeth ein cyn-fyfyrwyr ymlaen i lwyddo mewn ystod eang o feysydd, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae canlyniadau academaidd yr ysgol yn gyson dda, ac mae llwyddiant ein myfyrwyr ar y maes chwaraeon, ym myd y celfyddydau ac yn y meysydd galwedigaethol yn destun balchder.
Mae Ysgol Gyfun Ystalyfera yn ysgol glós a chyfeillgar, ac rydym yn ymfalchïo yn y berthynas ofalgar a chefnogol sy’n bodoli rhwng ein staff a’n myfyrwyr. Rydym am i’n disgyblion dyfu i fod yn ddinasyddion cyfrifol ac uchelgeisiol, sy’n oddefgar ac yn dangos parch a charedigrwydd tuag at eraill.
“Dysgu Gorau – Dysgu Byw”, dyma arwyddair Ystalyfera, ac mae’n ein hatgoffa o’r angen i baratoi ein pobl ifanc ar gyfer ystod o ofynion cymdeithasol a galwedigaethol i’r dyfodol. Mae’r cyfloedd i’w cynorthwyo “ i ddysgu byw” yn eang a chyfoethog. Mae bod yn ddwyieithog yn agor drysau i ddiwylliant cyfoethog yn y ddwy iaith, ac yn ehangu cyfleoedd ein disgyblion yn y farchnad iaith.
Braint yw medru darparu addysg o’r safon uchaf ar gyfer ein disgyblion, a hynny mewn ystod eang o gyrsiau academaidd a galwedigaethol. Ymfalchïwn yn y gefnogaeth bersonol a gaiff pob disgybl fel aelod o deulu Ystalyfera.
Beth bynnag yw’ch cysylltiad ag Ysgol Gyfun Ystalyfera, croeso i’n gwefan, ac os ydych am drafod unrhyw agwedd o waith yr ysgol, neu os ydych yn dymuno ymweld â ni, peidiwch â phetruso – cysylltwch gyda ni!
Yn ddiffuant,
Matthew H T Evans
Pennaeth
| Dim digwyddiadau |
Ysgol Gyfun Ystalyfera,
Heol Glanyrafon,
Ystalyfera,
Abertawe,
SA9 2JJ.
Ffôn: 01639 842129
Ffacs: 01639 845681
E-Bost: ygystalyfera@npted.org